Porthladdoedd a Masnachau

Cardigan Quay - Cardigan 2010 Collection

Bu Aberteifi yn borthladd ers y Canol Oesoedd. Ar ôl mynd ati i sefydlu castell yn y fan hon, byddai’r Normaniaid yn dod â gwinoedd o Ffrainc a Sbaen ynghyd â chyflenwadau eraill i’r gwarchodlu a’r gwladychwyr. Bryd hyn, gwlân a physgod wedi’u sychu oedd yr unig allforion a doedd porthladd Aberteifi mewn gwirionedd yn ddim mwy na safle glanio.

Mewn ymdrech i gynyddu masnach a gwrthsefyll lladrad, ar ddiwedd y 16eg ganrif gorchmynnodd y Frenhines Elizabeth l y dylid cynnal arolwg o’r holl borthladdoedd a’r safleoedd glanio yng Ngheredigion, a’r unig fasnach y ceir cofnod amdani bryd hynny yn Aberteifi yw pysgota. Gosodwyd holl arfordir Ceredigion dan awdurdod porthladd Aberdaugleddau a phenodwyd Aberteifi yn ddirprwy borthladd gydag awdurdod dros yr arfordir o Aberaeron i Abergwaun. Adeiladwyd tollty i sicrhau fod refeniw’r Frenhines yn cael ei gasglu ac mae Llyfrau’r Porthladd yn ystod y cyfnod rhwng 1603-1714 yn dangos cynnydd sylweddol mewn masnach. Byddai pysgod yn cael eu glanio yma ac ymhlith yr allforion roedd penwaig hallt, rhisgl coed derw (ar gyfer barcio neu drin lledr) a llechi Cilgerran. Roedd canhwyllau, lledr crwyn defaid, halen a lliain Gwyddelig ar gyfer gwneud hwyliau ymhlith y nwyddau fyddai’n cael eu mewnforio. Yn ddiweddarach, câi brethyn gwlân ei anfon i Ffrainc ar gyfer gwehyddu tapestri.

Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd y masnachwyr lleol yn cynnwys gwneuthurwyr angorau a chadwyni, masnachwyr glo a glo mân, masnachwyr ŷd a blawd, llosgwyr calch, gwneuthurwyr rhaffau, gwneuthurwyr hwyliau, masnachwyr halen, adeiladwyr llongau ac roedd yma dros 60 o dafarndai. Roedd yma hefyd odynnau calch, gwaith briciau, gwaith nwy, ffowndrïau a gefeiliau, barceriaid, gofaint tun, iard goed, melinau llifio ac iard lo.

Rhwng 1750 ac 1840 oedd cyfnod prysuraf y porthladd. Erbyn 1816 roedd 323 o longau wedi’u cofrestru yn Aberteifi. Ym 1835, roedd tua 1500 o ddynion yn ymwneud â gweithgareddau’r porthladd – dim ond ychydig llai na 3000 oedd cyfanswm poblogaeth Aberteifi! Pan oedd gweithgaredd masnachol Aberteifi yn ei anterth, porthladdoedd Llundain, Lerpwl a Bryste yn unig oedd yn fwy prysur na’r porthladd hwn.
Cardigan Mercantile Quay - Cardigan 2010 CollectionCardigan Mercantile Quay Today - Menter Aberteifi Cyf
Mewn ymateb i ddatblygiadau technolegol modern, sefydlwyd The Cardigan Steam Navigation Co. ym 1869 a gwerthwyd y cyfranddaliadau i gyd yn gyflym. Adeiladwyd llong gyntaf y cwmni, The SS Tivyside, ar lan yr afon Clyde a byddai’r llong hon yn masnachu rhwng Aberteifi a Bryste. Dechreuodd The Cardigan Steam Navigation Co. redeg The Sea Flower ym 1878 ond erbyn y cyfnod hwn roedd y porthladd eisoes yn dechrau dirywio. Dechreuodd y mewnforion fynd yn fwy na’r allforion ac roedd galw cynyddol am i’r porthladd allu darparu ar gyfer llongau mwy o faint ond roedd problemau mordwyo yn nŵr bas yr aber ac ni allai Aberteifi ymateb i’r rhain. Yn y pen draw, dyfodiad y rheilffordd ym 1886 oedd yr hoelen olaf yn arch y masnachu a fu’n digwydd ym mhorthladd Aberteifi ond ym 1961 daeth y gwasanaeth hwn hefyd i ben am ei fod yn aneconomaidd.

References: Lewis, W J, ‘The Gateway to Wales, a History of Cardigan’, Dyfed County Council, 1990 Davies, Donald, ‘Those Were The Days’, The Cardigan and Tivyside Advertiser, Vol 1 1991, Vol 2 1992 Jenkins, J Geraint, ‘Maritime Heritage, The Ships and Seamen of Southern Ceredigion’, Gomer Press, 1982 http://www.cambria.org.uk