Môr-ladrata a Smyglo

Mae straeon am fôr-ladron herfeiddiol yn ddigon prin yn y rhan hon o’r byd gan fod arfordir Gorllewinol Cymru ymhell oddi wrth y prif lwybrau masnach, er bod y nifer fawr o gildraethau bychain, diarffordd wedi bod yn llecynnau hwylus ar gyfer gweithgareddau smyglo.  Mae’r arfordir yn anwastad a chan nad oedd yn cael ei oleuo gan unrhyw drefi mawr, byddai llongau di-rif yn dryllio ar y creigiau a’u cargo wedyn yn cael eu meddiannu gan drigolion lleol diolchgar.

Roedd cryn dipyn o fasnachu anghyfreithlon yn digwydd ar hyd arfordir Cymru drwy Iwerddon ac Ynys Manaw.  Gan nad oedd Ynys Manaw, yn swyddogol felly, yn rhan o Brydain, byddai nwyddau’n cael eu cario i Ynys Manaw a’u storio yno heb i neb ofni i’r Goron eu darganfod.  Gellid pentyrru contraband, sef nwyddau gwaharddedig fel brandi, te, siwgr, halen a sebon, a’u cario drosodd wedyn pan oedd y pris yn iawn.

Yn ystod yr 1700au, adroddwyd nad oedd y dreth a gesglid ar fewnforion cyfreithlon braidd yn talu cyflogau’r swyddogion cyllid oedd yn ei chasglu.  Roedd hi’n frwydr barhaus i ‘ddynion y refeniw’ oherwydd byddai’r ynadon a’r siryfion lleol yn aml o blaid y smyglwyr gan fod y trethi gâi eu codi yn uchel.

Yn dilyn derbyn gwybodaeth anhysbys ym mis Awst 1704, cychwynnodd swyddog ar daith ar gefn ceffyl o Feirionnydd, gyda saith o ddynion yn gwmni, er mwyn dilyn nifer o gychod oedd yn dadlwytho halen yn anghyfreithlon ar hyd arfordir y gorllewin.  Ar ôl cyrraedd Cei Newydd, gwelsant tua 150 o bobl â 200 o geffylau yn barod i ddadlwytho halen oddi ar y cychod.  Gan mai wyth swyddog yn unig oedden nhw yn erbyn nifer mor fawr, pan sylweddolodd y smyglwyr eu bod yno, bu’n rhaid i’r swyddogion danio’u gynnau i’w hamddiffyn eu hunain.  Fe’u harestiwyd gan y cwnstabliaid lleol a bu’n rhaid i un o’r swyddogion ymddangos gerbron y llys am iddo anafu un o’r smyglwyr.  Roedd yn amlwg fod yr ynad lleol yn cydymdeimlo â’r smyglwyr.  Gan fod ysgadan mor bwysig i fywoliaeth a diet trigolion Bae Ceredigion, roedd masnach gref mewn halen wedi’i smyglo.

Roedd aber afon Teifi, traeth Mwnt, Aberporth, Llangranog, Cymtudu, Cei Newydd, Cei Bach, Aberaeron, Aberarth, Llannon a Llanrhystud yn enwog am smyglo am eu bod yn gilfachau ac yn gildraethau cudd ar hyd yr arfordir.

William Owen

Roedd un cymeriad, serch hynny, a fynnai sicrhau bod ei bresenoldeb yn wybyddus, a William Owen oedd hwnnw.  Dechreuodd ei hanes ym mhlwyf Nanhyfer, Sir Benfro, yn 1717.   Ag yntau’n fab i deulu amaethyddol cyfoethog, cafodd ei anfon i’r ysgol ond gwrthododd fynd yn ei flaen i brifysgol gan fynnu ei fod am fynd yn forwr.  Rhedodd i ffwrdd i’r môr pan oedd yn ei arddegau ond dychwelodd ar ôl blwyddyn am iddo benderfynu ei fod yn ormod o ŵr bonheddig i gael ei chwipio.

Bu’n gweithio ar fferm y teulu am gyfnod ond ym mhen hir a hwyr blinodd ar weithio fel gwas a rhedodd i ffwrdd i’r môr unwaith eto.  Pan ddychwelodd yn 1733, prynodd ei rieni gwch bychan iddo ond pan ddechreuodd William ganlyn morwyn yn Aberteifi, cymerasant y cwch oddiarno.  Priododd William yn ddiymdroi â’r forwyn a phan ddechreuodd plant gyrraedd y nyth, ildiodd ei dad a rhoddodd y cwch yn ôl i Owen yn ogystal â darparu rhywfaint o arian hefyd fel bod ganddynt ychydig incwm.

Bu Owen yn masnachu’n gyfreithlon am flwyddyn ond roedd yn ddiamynedd o awyddus i ennill ei ffortiwn a dechreuodd smyglo.  Oherwydd ei ddiffyg profiad, aeth i drafferthion ar ei fordaith gyntaf pan gipiwyd ei long gan swyddogion y tollau ar y daith yn ôl o Ynys Manaw.

Ag yntau heb feddu ar geiniog goch, ymrestrodd fel ail is-gapten ar fwrdd llong oedd yn hwylio i India’r Gorllewin ond dihangodd yn fuan oddi arni yn dilyn ffrae gyda’r capten.   Aeth ar ei fordaith nesaf ar long smyglo arfog o’r enw The Terrible.

Pan ddynesodd dwy long o Sbaen at The Terrible, roedd ei chapten yn awyddus i geisio cael y blaen arnyn nhw, ond doedd Owen, gyda chefnogaeth rhan helaeth o’r criw, ddim yn barod i wneud unrhyw beth o’r fath.  Gyda’r capten wedi ei gloi yn ei gaban, arweiniodd y llong i ganol y frwydr, a llwyddwyd i ladd 60 o Sbaenwyr tra mai 11 o ddynion yn unig a gollwyd oddi ar The Terrible.  Clwyfwyd Owen yng nghefn ei ben ond cafodd y criw eu trin fel arwyr pan gyraeddasantBarbados – i’r graddau bod carwriaethau Owen wedi rhoi bod i nifer o blant anghyfreithlon.

Aeth anturiaethau smyglo pellach ag ef i’r Caribî,SalamancaaHonduras, ond roedd llawer ohonynt wedi’u canoli o amgylchAberteifi,Cumbria, Lerpwl, Dulyn ac Ynys Manaw.  O drwch blewyn, llwyddodd Owen, i osgoi cael ei ddal ar Ynys Manaw drwy esgus ei fod yn farwnig Cymreig yn mordeithio ar ei gwch hwylio.

Yn ystod mordaith i Aberteifi, ymosodwyd ar ei long gan dyrfa o 80 neu fwy adeg terfysg ŷd.  Agorasant hatshis y llong gan fynd ati i ddwyn y brif hwyl hefyd.  Taniodd Owen ei wn at y dyrfa ac anafodd yr arweinydd.  Yna, gyda’i griw o ddau, llwyddodd i yrru’r dyrfa oddi ar ei long gan eu gorfodi i ddychwelyd y brif hwyl.  Daeth Owen ag erlyniad yn erbyn saith o’r terfysgwyr ond cafodd Owen ei hun ei rwymo i gadw’r heddwch.

Brithwyd gorchestion smyglo Owen gan gyfnodau pan oedd, rywsut neu’i gilydd, ar ochr gywir y gyfraith.   Un tro, saethodd llong ryfel Brydeinig, arfog ei brif hwylbren yn ddarnau ac fe’i gorfodwyd i ostwng ei faner ac ildio.  Roedd capten y llong ryfel mor falch ei fod wedi dal Owen, ac am ei fod yn ei ystyried yn ‘gymaint o fach’an dewr’, mae’n debyg, fe’i penododd yn ganol-longwr.

Mae’n anodd credu, ond gofynnodd swyddogion y tollau yn Aberteifi iddo eu helpu i ymlid smyglwyr halen.  Tra’r oedd cefnau’r swyddogion wedi eu troi, roedd Owen, yn siriol ddigon, yn gwerthu ei nwyddau smygledig eihunancyn hwylio maes o law am Ynys Manaw.

Cafodd hoe fer arall o smyglo pan benderfynodd gynorthwyo Thomas Parry, twrnai a chyfaill o Aberystwyth.  Roedd Parry wedi cythruddo teulu Johnes, Aber-mad wrth geisio adennill dyled ac roedd yn cael ei boeni gan y teulu.  Arweiniodd Owen fintai i ymosod ar eu plasty.   Cafodd y gwrthdaro ei ddatrys yn y pen draw pan osododd Owen gasgen o bowdwr gwn ar wagen, rhoddodd y wagen ar dân a’i rhedeg dan falconi Aber-mad.

Pan oedd ar fusnes yn Kendall, atafaelwyd ei long gan swyddogion y tollau a chymerasant bron y cyfan o’i eiddo oddi ar y llong, ac roedd ei golled – a gyfrifwyd ganddo ef ei hun – rhwng £400 a £500 ac eithrio gwerth y llong.  Gadawyd Owen heb ddim ond swllt yn ei boced.  Aeth i Aberteifi ac yno hysbysebodd ei fod wedi colli ei long ac fe rafflodd fuwch gan godi £30 trwy hynny.

Yn ystod mordaith yn 1744, roedd wedi gwared y rhan fwyaf o’r nwyddau smygledig ym Mae Sain Ffred, Sir Benfro.  Hwyliodd yn ei flaen gyda gweddill ei gargo i Aberteifi lle daeth wyneb yn wyneb â’r llong dollau, a wrthyrrwyd ganddo mewn dim o beth.  Dadlwythodd ei nwyddau gwaharddedig ond cudd-ymosodwyd ar ei long gan y Casglwr Tollau ac ugain o gynorthwywyr.  Lladdodd Owen a’i griw bedwar dyn, gyda James Phillips, y swyddog tollau yn eu plith.  Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, gyda dyfodiad tywydd teg, dihangodd Owen i Ynys Manaw.

Canfu cwest y crwner fod Phillips wedi ei lofruddio gan Owen ond ni chynhaliwyd prawf am na ellid rhoi person ar brawf ag yntau’n absennol (in absentia).

Roedd y rhwyd yn cau am Owen.  Cyhoeddodd Llywodraethwr Ynys Manaw wŷs i’w arestio.  Roedd dau o’i griw eisoes wedi’u dal a’i long wedi’i chipio.  Gosodwyd gwyliadwriaeth ar holl borthladdoedd Ynys Manaw er mwyn ei atal rhag ffoi ond llwyddodd i ddianc maes o law mewn cwch wystrys o Strangford.  Yn ddiweddarach, dychwelodd i’r Ynys ar fusnes ond ni fu’r awdurdodau’n hir cyn clywed ei fod yno pan ddaliwyd ef ar yr ynys gan dywydd garw.  Ffodd i’r bryniau, ond gan ei fod yn oer a newynog, ildiodd Owen.

Cyflwynodd y Comisiynwyr Tollau achos cadarn yn erbyn Owen a’i griw ond, wrth reswm, llwyddodd i greu argraff ar y barnwr gyda’i amddiffyniad oherwydd derbyniodd ryddfarn ar gyfrif y cyhuddiadau o smyglo.

Yna, dyfarnwyd Owen, a dau aelod o’i griw, yn euog o lofruddio James Phillips, ond, yn ôl Owen ei hun, fe’u dyfarnwyd yn euog o ddynladdiad yn unig.  Ymddengys na chawsant eu dedfrydu i gyfnod o garchar oherwydd – os credwn Owen ei hun – dechreuodd ar ei ffordd i Ynys Manaw yn syth ar ôl y prawf.  

Ar ddiwedd mis Medi 1745 dechreuodd ar fordaith i Dde Cymru mewn llong oedd yn eiddo i’w gefnder ond drylliwyd y llong mewn storm enbyd.  Owen oedd yr unig berson i oroesi.  Dychwelodd i Ynys Manaw cyn hwylio i Lerpwl ac yna aeth ar ei hynt i Aberteifi lle bu’n aros gyda ffrindiau tan y mis Mawrth canlynol cyn dychwelyd i Ddulyn, lle cafodd waith fel is-gapten.  Wedyn ym mis Gorffennaf 1746, daeth yn feistr preifatîr o’r enw Admiral Blake of Liverpool, llong ac iddi 20 gwn.  Ar ôl mordaith chwe mis heb fawr lwyddiant, dychwelodd y preifatîr iCork ond cawsai’r criw eu taro gan afiechyd oddi ar ArfordirBarbary; collwyd nifer ohonynt ac effeithiodd y salwch yn arw ar Owen.   Ar ôl ychydig, symudodd o Cork i Ddulyn ond ar y ffordd cafodd ddos o annwyd ac fe ail-waelodd.  Arhosodd yn Nulyn am gyfnod, ac yntau’n dal yn wael iawn.  Gadawodd Ddulyn am Lerpwl a bu’n aros mewn cartref meddyg cyn dychwelyd i Aberteifi i adfer ei iechyd.  Erbyn hyn, roedd ei holl eiddo naill ai wedi ei werthu neu ei wystlo.   Ym mhen hir a hwyr, daeth Owen wyneb yn wyneb â’i ddinistr yn dilyn cyfarfod gyda James Lilly, gŵr a adwaenai’n dda.  Yn ôl un ffynhonnell, roedd Lilly ei hun yn smyglwr drwg-enwog a ddihangodd o garchar Hwlffordd lle’r oedd yn aros am ei alltudio i’r America am ddwyn dau grys lliain.

Mae’n debyg iddynt fwrglera cartref John Thomas, Nanhyfer, gan ddwyn ugain gini ac yna saethu gwas/morwyn yn ei wyneb/hwyneb yn y broses.  Ar ôl diflannu am rai dyddiau, gwelwyd Owen a Lilly yn Aberteifi a chafwyd gwaedd ac ymlid i ddilyn.  Saethodd Lilly geffyl yr erlynydd oedd ar y blaen ond saethodd Owen yr erlynydd ei hun.  Daliwyd Owen a’i daflu i’r carchar am ladd Evan George o Aberteifi; lladdwyd Lilly yn y sgarmes.

Yn dilyn cwest y crwner, dygwyd rheithfarn o lofruddiaeth.  Cyhuddwyd Owen yn ei bryd a’i osod ar brawf yng Nghaerfyrddin ar 17 Ebrill 1747 ac, unwaith eto ar ôl amddiffyn ei hun, cafodd ei ddedfrydu.  Fe’i dienyddiwyd ar 2 Mai 1747.  Roedd yn ddeg ar hugain oed.

Cyfeiriadau: www.llgc.org.uk; www.earlymodernweb.org.uk; www.bbc.co.uk

Sion Cwilt

Daeth Sion Cwilt yn arwr cenedlaethol o fath yng Ngheredigion ar ddechrau’r 18fed ganrif.  Roedd yn byw mewn bwthyn ger Post-mawr (Synod Inn) lle mae llecyn sy’n cael ei adnabod hyd heddiw fel Banc Sion Cwilt.  Credir fod Sion wedi adeiladu ‘tŷ unnos’ yno oherwydd ei fod hanner ffordd rhwng Ffynnon Bedr – cartref Syr Herbert Lloyd, uchel siryf y sir a gŵr oedd yn perthyn iddo – a dau draeth oedd yn enwog am smyglo, sef Cwmtudu a Chei Bach.

Roedd hon yn ardal anghysbell a diarffordd ac yn addas ar gyfer smyglwyr oedd yn cuddio rhag yr awdurdodau.  Byddai Sion Cwilt yn mynd ar gefn ei geffyl i gwrdd â chychod y smyglwyr, gyda chleddyf a gwn yn ei law.   Fel mewn ardaloedd eraill sy’n enwog am smyglo, roedd llawer o foneddigion lleol yn dibynnu ar smyglwyr am eu gwinoedd a’u gwirodydd, ac roedd Syr Herbert yn eu plith.

Dywed rhai bod llysenw Sion – Cwilt – yn tarddu o’r ffaith ei fod yn gwisgo cotiau neu glogynnau lliwgar ond mae’n bosib hefyd mai llygriad o’r gair ‘gwyllt’ yw Cwilt.  Mae’r enw John Qwilt yn ymddangos yng nghofnodion plwyf Llanina, yn cofnodi bedydd ei fab yno yn 1758.  Sion Sais yw’r llysenw arall sy’n ymddangos, ac mae’n awgrymu nad oedd yn medru siarad Cymraeg yn rhugl.

Er gwaetha’r ffaith fod tîm o ddynion arfog wedi eu penodi i atal smyglo, a bod gwylfeydd yng Nghei Newydd lle’r oedd dynion y tollau’n cadw golwg am gychod smyglwyr, llwyddodd Sion Cwilt i osgoi cael ei ddarganfod ac ni chafodd fyth mo’i ddal.

Ychydig yn diweddarach cafodd dyn o’r enw Daniel Ifans ei ddal a’i restio yn Llangranog am werthu brandi wedi smyglo. Cafwyd ef yn euog a chafodd ei grogi. Diflannodd Sion Cwilt o’r traeth tawel yng Nghwmtydu. Ni welwyd ef yma eto.

Cyfeiriadau: www.llgc.org.uk; www.earlymodernweb.org.uk; www.bbc.co.uk; ‘Smyglwyr Cymru’, Twm Elias a Dafydd Meirion, Gwasg Carreg Gwalch, 2007