Allfudiad

ellis-island-immigrant-group

Roedd allfudo wedi hen gychwyn erbyn canol yr 1600. Gadawodd rhai pobl er mwyn chwilio am ryddid crefyddol, eraill i wneud eu ffortiwn ac anfonwyd rhai yn brentisiaid i blanhigfeydd tramor, ond yn gynnar yn yr 1800au bu allfudo ar raddfa fawr o ardal Aberteifi. Teithiodd rhai i’r gogledd er mwyn gadael o Lerpwl ond aeth llawer ar longau hwylio o gei Aberteifi hefyd i sefydlu anheddau ar draws y byd i gyd ac yng Nghanada ac Unol Daleithiau America yn benodol. Cyfres o gynaeafau gwael yn yr ardal hon sy’n fro amaethyddol yn bennaf, gostyngiad yn y galw am gynnyrch oherwydd y dirwasgiad yn ardaloedd diwydiannol De Cymru, cynnydd mewn diweithdra yn sgil cau tiroedd a’r cynnydd yn y defnydd o beiriannau amaethyddol, a threthiad trwm er mwyn ariannu Rhyfeloedd Napoleon oedd yn bennaf gyfrifol am hyn i gyd. Yn wyneb prinder bwyd ac arian, gyrrwyd pobl i chwilio am fywoliaeth yn y Byd Newydd.

Rhwng 1819 ac 1822, gadawodd yr Albion, Active a Fair Cambrian Aberteifi gan groesi Môr yr Iwerydd, ac roedd y llongau hyn yn cario mwy o ymfudwyr o’r dref bob tro. Llongau cargo oedd y rhain yn anad dim, ond yn wyneb y galw, ac o sylweddoli y byddai teithwyr yn talu’n well na balast, aeth eu perchnogion ati i drawsnewid eu llongau er mwyn gallu cario teithwyr. Nid oedd y mordeithiau’n hawdd nac yn gyfforddus ar unrhyw gyfrif.

Yr Albion

Gadawodd llong deufast yr Albion borthladd Aberteifi am Newfoundland, Canada ar 9fed Ebrill 1819 gyda 27 o deuluoedd o ran isaf dyffryn Teifi yn deithwyr ar ei bwrdd. Cawsant eu rhwystro gan stormydd garw ac roedd hi bron yn ddiwedd y mis cyn i’r llong allu gadael dyfroedd lleol ar ôl angori yn aber y Teifi, Abergwaun yn Sir Benfro ac yn Kinsale ym mhegwn deheuol Iwerddon.

Ar ôl treulio chwe wythnos ar y môr yn ymladd newyn a salwch mewn amgylchiadau cyfyng a chlos, fe gyrhaeddon nhw Newfoundland ac yno i’w cyfarch roedd cychod yn cynnig bwyd ac fe’u galluogwyd i goginio prydau ffres iddyn nhw eu hunain. Croesawyd hwy gan y Maer a daethpwyd o hyd i waith yn fuan iawn yn St John ar gyfer nifer fawr o’r bobl ifainc. Roedd hi’n stori cwbl wahanol, serch hynny, yn hanes y teuluoedd oedd yn awyddus i weithio ar y tir. Doedd ganddyn nhw fawr ddim arian, os o gwbl, i brynu lleiniau tir neu adnoddau ar gyfer trin y tir – a neb i droi atynt am gymorth chwaith.

Roedd Syrfëwr Cyffredinol New Brunswick ar y tir mawr yn cynnig ‘tocynnau lleoli’ oedd yn rhoi hawl i’r mewnfudwyr glirio tir ac ymgartrefu yno. Aeth rhai marchnatwyr lleol ati i ffurfio’r Cardigan Society i’w helpu gydag offer a chyngor ar sut i adeiladu cabanau pren, er bod rhai ohonynt, a hwythau’n dal heb fodd i ennill bywoliaeth, wedi’u gorfodi i gardota am fwyd ac yn sgil hynny ennyn llid y brodorion lleol.

Ym mhen hir a hwyr, fe wellodd pethau ac ar ôl chwe blynedd o waith caled ac ymdrech, rhoddwyd iddynt hawl a theitl cyflawn ar eu tiroedd ac fe ddaethant yn hunangynhaliol. Mae cysylltiadau’n dal i barhau rhwng y gwladychiad yn New Brunswick ag Aberteifi ac fe lwyddodd aelodau o’r gymuned honno i ymuno ag Aberteifi yn ystod dathliad 900 mlynedd y dref yn 2010.

New Brunswick Plaque

New Brunswick Plaque

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, yn dilyn aflonyddwch Terfysgoedd Rebecca yn yr 1840au, gwelwyd ton arall o bobl yn allfudo o Aberteifi ac fe adawodd llong y Triton Aberteifi am Efrog Newydd. Yn ardaloedd gwledig Siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin y digwyddodd Terfysgoedd Rebecca, sef cyfres o brotestiadau gan denantiaid o ffermwyr yn erbyn talu’r tollau oedd yn cael eu codi am ddefnyddio’r ffyrdd.

Cyfeiriadau:

Lewis, W J, ‘The Gateway to Wales, a History of Cardigan’, Cyngor Sir Dyfed, 1990

Davies, Donald, ‘Those were the days’, The Cardigan and Tivyside Advertiser, Cyf 1 1991, Cyf 2 1992