Cychod a Physgota

Seine Fishing Gwbert - Cardigan 2010 Collection

Mae pysgota, ers tro byd, wedi bod yn ffordd o fyw o amgylch glannau ac afonydd De Orllewin Ceredigion er mwyn rhoi bwyd ac incwm i’r bobl sy’n byw yno. Roedd y trap pysgod, sef dull cynnar iawn o bysgota, yn ffordd effeithlon o ddal pysgod yn eu niferoedd drwy ddibynnu ar lif y llanw. Defnyddid cwryglau, sef cychod bychain wedi’u gorchuddio â phyg oedd yn cael eu gyrru a’u llywio gan un rhwyf wrth bysgota yn yr afon gyda rhwydi Sân. Wrth drin dalfeydd mwy o faint o’r aber neu o’r môr, defnyddid Cychod Sân neu Rwydwyr (Seiners), sef llongau morio â chriw.

Trap Pysgod

Fish trap at Poppit Sands - Google Maps

Image ©2012 Getmapping plc © 2012 Google

Ffurfiad mawr o gerrig neu bren yw trap pysgod. Daw’r pysgod i mewn gyda’r llanw ac yna wrth i’r llanw lifo allan, cânt eu trapio mewn rhwydi neu fasgedi.

Yn 2007, yn Poppit yn aber afon Teifi, darganfuwyd trap pysgod hynafol, siâp V, gan archeolegwyr oedd yn astudio awyrluniau. Cafodd y ffurfiad, sy’n ymestyn dros ryw 260 llath (240 metr) ei greu o gerrig lleol gyda bwlch yn y fan honno lle gellir gosod rhwyd. Byddai’r trap hwn, sy’n dyddio nôl rhyw 1000 o flynyddoedd, wedi bod yn cael ei ddefnyddio adeg Concwest y Normaniaid. Sut bynnag, roedd maglau o’r fath yn ddull mor effeithiol o ddal pysgod fel y cawsant eu gwahardd o afonydd mewndirol yn y Magna Carta (1200au). Mae’r enghraifft hon o drap pysgod yn un o’r ychydig rai sydd ar ôl bellach ar hyd arfordir Cymru. Darganfuwyd trap pren yng Nghei Bach (Cei Newydd), rhyw ychydig filltiroedd ymhellach i’r gogledd.

Heddiw, mae trap pysgod Poppit yn edrych yn debyg i greigres neu riff naturiol ac mae wedi dod yn gartref i lawer o greaduriaid gwarchodedig y môr fel y mwydyn crwybrog sy’n byw mewn tiwb (Sabellaria), amrywiaeth o rywogaeth yr algae coch ac anemonïau’r môr.

Gosodwyd trapiau pysgod hefyd islaw castell Cilgerran ac ar Ystâd Castell Malgwyn yn Llechryd. Gorchmynnodd y Brenin (1270au) y dylid dinistrio trap Cilgerran oherwydd ei fod yn tarfu ar y gwaith o gario coed a cherrig i’r gwaith adeiladu yng Nghastell Aberteifi. Yn Llechryd, ymosodwyd ar gyfres o drapiau cerrig dal eog fyddai’n casglu pysgod i ystâd Castell Malgwyn yn ystod Terfysgoedd Rebecca (1840au) ac fe’u datgymalwyd yn ddiweddarach, ond mae ogof fechan – islaw glan yr afon – yn dal yno hyd heddiw a dyma’r fan lle câi’r ddalfa ei storio. Hwyaid gwyllt, siglennod ac adar bach amrywiol sydd bellach yn ymweld â’r cerrig gwasgaredig.

Cwryglau

Cafodd cwryglau a rhwydi eu defnyddio wrth bysgota am eog a brithyll ar afonydd lleol ers cyn cof. Gellir olrhain tarddiad y gair cwrwgl i’r iaith Geltaidd ond mae gwahanol fathau o gwryglau i’w cael mewn rhyw ffurf neu’i gilydd ym mhob cwr o’r byd.

Ffrâm o goed helyg gyda gwlanen neu galico wedi’i dynnu’n dynn drosto a’i orchuddio mewn tar/ paent bitwmen yw cwrwgl afon Teifi. Roedd y cwrwgl yn ddigon ysgafn i’r pysgotwyr ei gario ar ei gefn. Wrth i’r galw am bysgod gynyddu, bu’n rhaid defnyddio rhwydi trymach ac o dipyn i beth fe ymrannodd pysgotwyr yr ardal yn raddol yn ddwy garfan – dynion y cwryglau a’r rhai hynny oedd yn gweithio gyda chriwiau bychain ar longau sân.

Daeth pysgota cwrwgl yn alwedigaeth nos, gyda’r pysgotwyr yn dilyn eu gwahanol alwedigaethau yn ystod y dydd.

Rhwydi Sân

Gellir defnyddio rhwydi sân o’r traeth, o gwryglau neu o gychod (Rhwydwyr). Rhwyd bysgota fawr yw’r sân, ac mae ymyl uchaf y rhwyd yn cael ei chadw’n agos at wyneb y dŵr gan fflotiau corc, tra bod pwysau plwm, sydd wedi’u cysylltu wrth yr ymyl isaf, yn cadw gweddill y rhwyd i lawr.

Byddai’r rhwydi’n cael eu taflu o’r lan gan dîm o bysgotwyr a’u tynnu i mewn gan gasglu pysgod ar y ffordd. Byddai dynion y cwryglau’n gweithio ar yr afon mewn parau er mwyn gallu taenu’r rhwydi. Roedd pob pâr yn dal llinell gorc a phlwm rhwng y ddau gwch. Câi’r rhwydi eu gosod mewn bylchau a holltau naturiol yn y creigiau lle’r oedd yr eogiaid a’r brithyll fel arfer yn cuddio. Defnyddid ffyn hir wedyn i gynhyrfu’r dŵr yn y bylchau naturiol hyn, gan dwyllo’r pysgod i nofio i mewn i’r rhwydi. Byddai’r pysgotwyr yn tynnu blewyn cwta (bwrw coelbren) er mwyn cael pysgota mewn pyllau penodol oherwydd roedd rhai ohonynt yn fwy cynhyrchiol na’i gilydd.

Cychod Sân neu Rhwydwyr

Byddai’r Rhwydwyr, sef y cychod Sân mwy o faint, yn gweithio yn yr aber ac yn gollwng y rhwydi i mewn i’r morynnau ar eu ffordd allan ac yna’n troi nôl i gasglu’r ddalfa. Roedd y rhan fwyaf o’r pysgota Sân yn digwydd wrth geg yr aber, oherwydd bod y cychod mwy o faint hyn yn fwy addas na chwryglau ar gyfer yr amodau mwy tyrfol. Byddai’r cwch yn amgylchynu haig o bysgod gan eu dal yn y rhwyd. Câi’r cychod sân neu’r Rhwydwyr eu hadeiladu’n lleol yn Llandudoch ac Aberteifi, ac roedden nhw’n dal i gael eu hadeiladu hyd at ddechrau’r 20fed ganrif.

References: Lewis, W J, ‘The Gateway to Wales, a History of Cardigan’, Dyfed County Council, 1990 Dr Ziggy Otto, Countryside Council for Wales www.coflein.gov.uk