Chwilio eich teulu

Canllaw i ymchwil teuluol

Ffoto: Casgliad Hanes Aberteifi 2010

Ffoto: Casgliad Hanes Aberteifi 2010

 Os ydych chi’n ceisio dod o hyd i gyndeidiau fu’n byw yng Ngheredigion, dyma ambell awgrym all fod o gymorth i chi wrth i chi ymchwilio.

Os ydych wedi olrhain eich teulu i un a ymfudodd o Gymru, yna’r dasg nesaf sy’n eich wynebu yw pennu o ba blwyf roedd ef/hi yn hanu.  Gallwch wneud hyn drwy ystyried beth a wyddoch yn barod.  Ydych chi’n gwybod enwau eich tad-cuod a’ch mam-guod (teidiau a neiniau) neu eich hen dad-cuod a’ch hen fam-guod (hen deidiau a hen neiniau)?  Meddyliwch am unrhyw hanesion sydd wedi’u trosglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall yn eich teulu; oes yna straeon am siopwyr, morwyr neu fôr-ladron hyd yn oed?  Siaradwch gydag aelodau eraill eich teulu a gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw’n ei wybod er mwyn eich helpu i osod y jig-so at ei gilydd.  Oes gyda chi unrhyw ddogfennau, ffotograffau neu bethau cofiadwy eraill all eich helpu?  Gall fod gan berthnasau eraill neu ryw lyfrgell ddogfennau sy’n nodi’r lle, plwyf, dinas neu sir, e.e. tystysgrifau geni, priodi a marwolaeth, ffotograffau, llythyrau, Beiblau’r teulu, ffurflenni cais a deisebau am ddinasyddiaeth neu eiddo etifeddol y teulu, i enwi ond ychydig.

Y Cyfrifiad

Erbyn hyn, yn ffodus, gellir cael gafael am gryn dipyn o wybodaeth ar y rhyngrwyd.  Gallwch edrych am fanylion eich cyndeidiau ar gyfrifiad Cymru a Lloegr.  Dechreuwch gyda chyfrifiad 1911 a gweithiwch eich ffordd yn ôl fesul degawd hyd at 1841.  Gallwch weld y cyfrifiad drwy fynd i www.findmypast.co.uk a www.ancestry.co.uk  Rhaid talu am ddefnyddio’r ddwy wefan hon ond, os ydych yn y DU, mae’n bosib y gallech gael mynediad am ddim iddyn nhw yn eich llyfrgell leol.  Gall manylion a gynhwyswyd yn y cyfrifiad roi i chi giplun o’ch teulu ym mhob degawd rhwng 1841 ac 1911.  Gan ddibynnu ar y dyddiad, fe ddywed wrthych pwy yw aelodau eraill y teulu, eu hoedran a lle cawsant eu geni, yn ogystal â’u galwedigaeth a’u cartref sefydlog bryd hynny.

Ffoto:Casgliad Hanes Aberteifi 2010

Ffoto:Casgliad Hanes Aberteifi 2010

Gall problemau godi os ydych yn chwilio am forwr ar ffurflen gyfrifiad oherwydd byddai llawer o ddynion wedi bod oddi cartref ar noson cynnal y cyfrifiad.  Mae’n bosib y gallwch olrhain eu teuluoedd os oes gyda chi rai ffeithiau penodol, er enghraifft, pan fydd pennaeth y teulu wedi ei chofrestru fel Gwraig Capten Llong neu Gwraig Morwr, mae’n bosib y gellir dod o hyd i’r gŵr ar fordaith.  Efallai bod rhai morwyr, oedd oddi cartref ar noson y cyfrifiad, wedi bod ar fwrdd llong oedd wedi’i hangori yn un o borthladdoedd niferus Ynysodd Prydain.  Os oedd ei long yn aros mewn harbwr yng Nghymru neu yn Lloegr, yna dylai chwiliad yng nghyfrifiad 1851 ac ar ôl hynny, ddod o hyd iddo.  Un o fanteision chwilio’r cyfrifiad ar-lein yw y gallwch chwilio am berson wrth ei enw/henw, ond dim ond yn unrhyw le yng Nghymru a Lloegr.

Genedigaethau, priodasau a marwolaethau

Os bu i’ch hynafiad ymfudo o’r DU ar ôl 1af Gorffennaf 1837, mae’n bosib y gallwch ddod o hyd i’w darddle/tharddle drwy ddefnyddio’r mynegeion cenedlaethol sy’n rhestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau.  Gallwch chwilio drwy’r mynegeion am enedigaethau, priodasau a marwolaethau yn www.freebmd.org.uk.  Mae’r safle hon yn rhoi cyfle i chi chwilio yn rhad ac am ddim ond bydd rhaid talu am unrhyw dystysgrifau y byddwch yn dymuno’u harchebu.

Cofrestr y plwyf

Pan fyddwch wedi canfod tarddle eich hynafiad, gallwch chwilio amdano/amdani mewn cofrestri plwyf.  Mae’r rhain i’w gweld yn www.findmypast.co.uk neu yn y Mynegai Achyddol Rhyngwladol (International Genealogical Index) yn www.familysearch.org sy’n cynnwys log o adnoddau eraill defnyddiol.  Gallwch gael mynediad i’r wybodaeth sydd ar y wefan hon heb dalu ceiniog.

Ffoto: Casgliad Hanes Aberteifi 2010

Ffoto: Casgliad Hanes Aberteifi 2010

Trosedd a chosb

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, www.llgc.org.uk, gyfoeth o wybodaeth ynglŷn â hanes Cymru ac achau.  Mae rhywfaint o’r wybodaeth hon ar gael ar-lein, e.e. y gronfa ddata Trosedd a Chosb.  Mae hon yn cynnwys data am droseddau, troseddwyr a chosbau sydd wedi eu cynnwys yn ffeiliau carchar Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru, o 1730 hyd ei ddiddymu yn 1830.  Câi’r Llys hwn farnu pob math o droseddau, o fân-ladradau i deyrnfradwriaeth.  Yn ymarferol, byddai’r rhan fwyaf o fân-droseddau yn cael eu barnu yn Sesiynau’r Llysoedd Chwarter, ac mae’r  cofnodion hyn yn nwylo swyddfeydd archifdai sirol Cymru.  Gellir chwilio manylion am y cofnodion hyn yn Archifau Cymru (Archive Network Wales) www.archivesnetworkwales.org.uk.

Ewyllysiau

Gall cofnodion profiant, ewyllysiau, rhestri eiddo a dogfennau gweinyddol eraill ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn.  Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol fynegai i Ewyllysiau a brofwyd yn llysoedd eglwysig Cymru cyn i’r Profiant Sifil gael ei gyflwyno ar 11eg Ionawr 1858.  Gall cofnodion profiant grybwyll perthnasau sydd wedi ymfudo.  Tan y flwyddyn1858, dylai profiannau pobl fu farw dros y môr oedd yn berchen eiddo yng Nghymru fod wedi eu profi yn Llys Uchelfraint Caergaint.  Codir tâl bychan am lwytho i lawr yr ewyllysiau hyn o wefan yr Archifau Cenedlaethol (National Archives) www.nationalarchives.gov.uk neu yn y Brif Gofrestrfa Profiant (ar ôl 1857).  Mae mwy o fanylion am ewyllysiau ar ôl 1857 i’w gweld yn www.justice.gov.uk

Ymfudwyr

Os ydych yn awyddus i ddod o hyd i dystiolaeth bod eich cyndeidiau wedi cyrraedd gwlad y tu allan i’r DU, man cychwyn defnyddiol fyddai darllen y canllaw byr sydd ar gael ar wefan yr Archifau Cenedlaethol (National Archives).  Bydd hyn yn dweud wrthych ble y gallwch ddod o hyd i gofnod am berson a ymfudodd o Brydain.  Yn www.findmypast.co.uk gallwch weld rhestri o deithwyr a adawodd o borthladdoedd y DU ac Iwerddon gan deithio i fannau fel UDA, Canada, India, Seland Newydd ac Awstralia.  Mae’r rhestri teithwyr hyn yn brin cyn 1890;  wedi’r dyddiad hwn maent wedi eu gosod mewn trefn gronolegol fesul porthladd gadael.  Pan fydd y rhain ar gael, maen nhw fel arfer yn rhestru enw, oed, galwedigaeth, cyfeiriad ac weithiau cyrchfan yr ymfudwr.  Gallwch hefyd chwilio’r Prosiect Cyndeidiau Mewnfudol (Immigrant Ancestors Project) yn www.immigrants.byu.edu i gael gwybodaeth am fannau geni mewnfudwyr.

Cofrestrwyd y rhai hynny wnaeth gais am gymorth i ymfudo mewn cofrestri ymfudwyr cynorthwyedig, sy’n aml yn cynnwys enw, oed, galwedigaeth, cartref swyddogol, cyrchfan, enw’r noddwr, cyfeiriad perthynas a maint y teulu.  Gellir dod o hyd i gofnodion am ymfudwyr a dderbyniodd gymorth i ymfudo o’u plwyf neu oddi wrth landlord mewn cofnodion plwyf (nid cofrestri) a chofnodion ystâd.

Ffynonellau Lleol

Efallai y byddai’n fuddiol i chi gysylltu â chymdeithas hanes teuluol oherwydd bydd adnoddau lleol ar gael gan y rhain yn ogystal ag aelodau sy’n meddu ar wybodaeth leol.  Gall fod gan y plwyf neu’r gymuned sydd o ddiddordeb i chi ei wefan/gwefan ei hun.  Gall archifdai a llyfrgelloedd lleol hefyd fod yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr.

Pan fyddwch wedi disbyddu’r wybodaeth sydd ar gael ar-lein, efallai yr hoffech ystyried ‘dod adref’ i ymweld â gwlad eich cyndeidiau ac archwilio eu bywydau.  Neu efallai yr hoffech gyflogi achydd proffesiynol all barhau i ymchwilio ar eich rhan mewn archifdai lleol.  Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru restr o ymchwilwyr annibynnol.

Pob lwc!

Tina Webb, Hound Dog Research

http://www.findmypast.co.uk

Cysylltiadau defnyddiol

http://www.findmypast.co.uk (£)

www.ancestry.co.uk (£)

www.familysearch.org

www.freebmd.co.uk

www.llgc.org.uk (National Library of Wales)

www.archivesnetworkwales.info (Archive Wales Network)

http://www.welshmariners.org.uk

www.nationalarchives.gov.uk

www.justice.gov.uk

www.cwgc.org (Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad)

www.dyfedfhs.org.uk (Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed)

www.archifdy-ceredigion.org.uk (Archifdy Ceredigion)

www.genuki.org.uk/big/wal/CGN/index.html (GENUKI Cardiganshire)

www.immigrants.byu.edu

www.ceredigion.gov.uk/index.cfm?articleid=348 (Llyfrgell Cyhoeddus Ceredigion)