Llechryd

Y 12fed ganrif yw man cychwyn Llechryd, a’r pryd hwnnw safai clwstwr o adeiladau nid nepell i’r gogledd o’r bont bresennol dros Afon Teifi.  Erbyn y 14eg ganrif, roedd Llechryd wedi tyfu’n bentref ac yn meddu ar ei eglwys ei hun – Eglwys y Groes Sanctaidd – sydd bellach yn adfail rheoledig dan ofal Cyngor Cymuned Llangoedmor.  Gwelwyd ehangu pellach yn ystod cyfnod diwydiannol yn y 18fed a’r 19eg ganrif.

Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif yr afon oedd prif lwybr cludiant defnyddiau fel haearn ar gyfer gwaith haearn Coedmor, tun a haearn ar gyfer gwaith tunplat Penygored a chalchfaen a glo ar gyfer yr odyn galch.  Ymhlith y nwyddau gâi eu cludo nôl lawr yr afon i’w hallforio roedd peiriannau amaethyddol, tunplat a llechi a thywod o’r chwareli.  Defnyddid ysgraffau’n aml i gludo nwyddau mor bell â Phont Aberteifi lle caent eu llwytho ar longau mwy o faint i’w trosglwyddo ymlaen.

Safai gwaith haearn Coedmor, oedd yn dyddio o ddechrau’r 18fed ganrif, ar lan ogleddol yr afon, i’r gorllewin o’r bont.  Mae olion y pownd neu’r pynfarch i’w gweld o hyd yn llifo drwy’r dolydd rhwng y bont a Llechryd Isaf.

Sefydlwyd gwaith tunplat Penygored yn 1771.  Erbyn 1810, roedd y gwaith wedi ei ddatgymalu ond yn ystod y cyfnod byr hwn roedd wedi tyfu’n un o’r mwyaf o’i fath, ac yn nesaf o ran maint i’r gweithfeydd ym Melingriffith, Sir Forgannwg.  Mae’n bur debyg i’r gweithfeydd gael eu sefydlu yn y fan hon er mwyn manteisio ar y cyflenwad toreithiog o siarcol oedd ar gael yn sgil yr holl goed.  Byddai Afon Teifi hefyd wedi bod yn ffactor pwysig arall, gan y byddai’n cael ei defnyddio i bweru’r gwaith ac i gludo cynhyrchion i ac o’r porthladd pwysig yn Aberteifi wrth geg yr afon.  Yn 1791, prynwyd Penygored gan Sir Benjamin Hammet ac aeth ati i adeiladu ystâd a edrychai dros y gweithfeydd.  Mae muriau cerrig y cei llwytho i’w gweld o hyd y tu ôl i Hammet House, sy’n westy erbyn hyn.  

Adeiladwyd yr odyn galch yng Ngwarchodfa Natur Leol Coed Maidie B. Goddard yn ystod y 19eg ganrif.  Byddai blociau calchfaen yn cael eu cario ar longau o fannau fel Aberdaugleddau, Caerfyrddin a Sir Fôn a’u llosgi mewn odynau lleol er mwyn cynhyrchu calch gâi ei ddefnyddio fel gwrtaith ar dir amaeth lleol.

Heddiw, mae Afon Teifi yn enwog am ansawdd ei hamgylchfyd a’i chynefinoedd cyfoethog sy’n cynnal poblogaethau o bysgod, mamaliaid, pryfed, planhigion, coed, mwsoglau a chennau.

Pysgota mewn cwryglau fu’r traddodiad erioed ar Afon Teifi.  Cwch ac iddo waelod gwastad a ffrâm o bren helyg gyda gorchudd o galico a thar yw cwrwgl Teifi.  Caiff ei lywio a’i yrru gan un person ac un rhwyf yn unig. Byddai pysgotwyr lleol yn aml yn adeiladu eu cwryglau eu hunain er mwyn pysgota eog yn yr afon gan ddefnyddio rhwydi.  Weithiau, byddai’r pysgotwyr yn gweithio mewn parau ac yn taenu rhwyd ar draws yr afon.  Cafodd cwryglau eu defnyddio ar yr afon ar hyd y blynyddoedd, ar gyfer pysgota’n bennaf, ond maent wedi bod yn ddefnyddiol mewn nifer o sefyllfaoedd eraill hefyd: cario pobl a nwyddau, rheoli dipio defaid a dosbarthu’r post yn ystod llifogydd.  Cyn iddi newid ei chwrs, arferai Afon Teifi lifo heibio Eglwys Llawddog Sant, Maenordeifi.  Pan fyddai’r afon yn gorlifo ei glannau, dim ond mewn cwrwgl y gellid cyrraedd yr eglwys, a hyd yn oed heddiw cedwir cwrwgl yng nghyntedd yr adeilad.

Yn 1974, croesodd Bernard Thomas, brodor o Lechryd, y Sianel i Ffrainc yn ei gwrwgl.  Rhwyfodd Bernard o fae St. Margaret yn swyddKenti Cap Blanc Nez yn Ffrainc.  Er bod y croesiad byrraf tua 22 milltir, byddai wedi teithio yn nes at 30 milltir oherwydd y llanwau a’r cerhyntau.  Cyrhaeddodd pen ei daith cyn pen 13½ awr.

Cyfeirnodau: RCAHMW,CambriaArchaeology, Trysor, National Coracle Centre Cenarth